Gall Gogledd Iwerddon fwynhau dyfodol disglair gydag ewyllys da a chyfaddawd, meddai Boris Johnson sydd wedi bod ar ymweliad a Belffast ddydd Llun (Ionawr 13).

Dywedodd y Prif Weinidog y byddai gofal iechyd yn flaenoriaeth yn dilyn buddsoddiad “helaeth” gan y Llywodraeth fel rhan o’r cytundeb i adfer y llywodraeth ddatganoledig yn Stormont.

Daeth ei sylwadau wedi iddo gwrdd â’r Prif Weinidog Arlene Foster (DUP) a’r dirprwy Brif Weinidog Michelle O’Neill (Sinn Fein), y tu allan i Gastell Stormont ym Melffast.

Dywedodd Boris Johnson ei fod yn gobeithio, “gydag ewyllys da a chydweithio a gwaith caled ar bob ochr y bydd yn ddyfodol disglair iawn.”

Roedd y Taoiseach Leo Varadkar yn Stormont hefyd i nodi’r achlysur.  Mae’r llywodraeth ddatganoledig wedi bod yn segur ers tair blynedd.

Addewidion ariannol

Roedd Llywodraeth San Steffan wedi gwneud nifer o addewidion ariannol fel rhan o’u hymdrechion i sicrhau’r cytundeb “Degawd Newydd, Agwedd Newydd”.

Cyn i Boris Johnson gyrraedd, dywedodd gweinidog yn Stormont ei fod yn disgwyl i Lywodraeth San Steffan gyfrannu £2bn i gefnogi’r cytundeb.

Roedd Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon Julian Smith, wnaeth helpu i lunio’r cytundeb, hefyd wedi rhoi addewid o fuddsoddiad sylweddol i leddfu problemau gwasanaethau cyhoeddus y rhanbarth.

Ond gwrthododd gadarnhau faint fydd y swm nes bod y llywodraeth ddatganoledig wedi ei hadfer yno.

Iechyd

Mae disgwyl i’r gwasanaeth iechyd fod yn flaenoriaeth i weinidogion Stormont – mae nyrsys wedi gweithredu’n ddiwydiannol deirgwaith o fewn y mis diwethaf.

O dan amodau’r cytundeb maen nhw hefyd dan bwysau i fynd i’r afael a rhestrau aros hir; cynyddu nifer y plismyn ar ddyletswydd a datrys anghydfod diwydiannol yn ymwneud ag athrawon.