Yn ôl adroddiadau, mae’r cwmni hedfan Flybe ar fin mynd i’r wal.

Flybe yw’r cwmni hedfan rhanbarthol mwyaf yn Ewrop ac mae’n hedfan o Gaerdydd ymhlith lleoliadau eraill.

Mae ’na adroddiadau bod y cwmni mewn trafodaethau brys gyda’r Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, a’r Adran Drafnidiaeth i weld a allai’r Llywodraeth roi cymorth ariannol brys i Flybe.

Mae hyd at 2,000 o swyddi yn y fantol.

Dywedodd y cwmni nad ydyn nhw’n “ymateb i sïon a dyfalu” a’u bod yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau’r gwasanaeth gorau i’w cwsmeriaid.

Mae Flybe yn hedfan 8.5 miliwn o deithwyr bob blwyddyn i 170 o lefydd yn Ewrop.

Ym mis Chwefror y llynedd cafodd y cwmni ei brynu am £2.2m gan gonsortiwm oedd yn cael ei arwain gan Virgin Atlantic yn dilyn canlyniadau ariannol gwael.