Mae pennaeth cwmni awyrennau Boeing wedi cael ei ddiswyddo wythnos ar ôl cadarnhau y byddan nhw’n rhoi’r gorau i gynhyrchu awyrennau 737 Max am y tro.

Roedd Dennis Muilenburg wedi bod dan bwysau ers i’r awyrennau gael eu hatal rhag hedfan am flwyddyn yn dilyn dwy ddamwain angheuol, lle bu farw 346 o bobol.

Dywedodd y cwmni bod y penderfyniad i roi’r sac i’r prif weithredwr wedi bod “yn hanfodol er mwyn adfer hyder yn y cwmni” wrth geisio adfer y berthynas gyda rheoleiddwyr, cwsmeriaid a rhanddeiliaid.

Fe fydd y cadeirydd David Calhoun yn camu i swydd y prif weithredwr a llywydd o Ionawr 13.