Boris Johnson fydd “sarjant recriwtio” yr SNP os yw’n parhau i wrthod yr hawl i’r Alban gynnal ail refferendwm annibyniaeth, yn ôl mudiad Yes Scotland.
Mae prif weinidog Prydain eisoes yn dweud na fydd yr Alban yn cael yr hawl i gynnal refferendwm arall yn ystod y cyfnod seneddol presennol.
Ond mae Dennis Canavan, cyn-aelod seneddol Albanaidd, yn rhybuddio y gallai pleidiau o blaid annibyniaeth ennill mwyafrif o seddi Holyrood yn etholiadau 2021 oni bai ei fod yn ildio i’r galwadau.
Mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, eisoes wedi ysgrifennu at Boris Johnson yn gofyn am yr hawl i gynnal refferendwm arall.
Enillodd yr SNP 47 allan o 59 o seddi yn yr Alban yn yr etholiad cyffredinol.
“Daeth Senedd yr Alban yn realiti er gwaethaf Margaret Thatcher,” meddai Dennis Canavan wrth bapur newydd y Scotland on Sunday.
“Yn yr un modd, bydd annibyniaeth i’r Alban yn dod yn realiti er gwaethaf Boris Johnson.
“Os yw Boris Johnson yn parhau i ystyfnigo, fe fyddai’n sarjant recriwtio i achos annibyniaeth ac yn sicrhau bod etholiadau 2021 yn Senedd yr Alban yn creu mwyafrif hyd yn oed yn fwy o aelodau seneddol o blaid Indyref2.”
Mae’n cyhuddo’r pleidiau unoliaethol o “dreulio gormod o amser yn ymgyrchu’n negyddol a cheisio wfftio achos annibyniaeth”.