Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Dafydd Wyn Jones, cyfarwyddwr Clwb Pêl-droed Porthmadog, sydd wedi marw’n 71 oed.

Mae’n gadael gwraig, y cynghorydd Ann Jones, a dau o blant, y canwr Yws Gwynedd a merch Tracey.

Yn genedlaetholwr, bu’n ymgyrchu dros Blaid Cymru ers blynyddoedd.

Bu hefyd yn rhedeg siop Recordiau Cob ym Mhorthmadog.

“Brawychwyd ardal gyfan gyda’r newyddion ac estynnwn ein cydymdeimlad llwyraf â Linda, Yws a’r teulu cyfan yn eu colled enfawr,” meddai teyrnged ar wefan y clwb.

“Ysgydwyd pawb ohonom yn y clwb gyda sydynrwydd y newyddion.

“Mae’n rhy fuan, a mae pawb yn ei chael yn anodd i brosesu’r newyddion, inni werthfawrogi’n llawn gyfraniad anferth Dafydd i glwb lle bu yn bresenoldeb mor bwysig am gyfnod mor hir.

“Bu yn hollol allweddol i’r datblygiadau mawr sydd wedi digwydd ar y Traeth dros y blynyddoedd diwethaf ac yn brwydro ar hyd yr amser i sefydlu’r clwb ar seiliau ariannol cadarn.

“Yn fwy na dim roedd yn gefnogwr, a hynny am 60 mlynedd a mwy ac roedd yn bresenoldeb rheolaidd mewn gemau’r clwb ar Y Traeth ac oddi cartref.

“Roedd ei lais optimistaidd bob amser yn ein cynnal a chodi ein calonnau.

“Bydd yna golled enfawr, fel swyddog o’r clwb ond yn bennaf byddwn yn ei golli fel ffrind i bawb ar Y Traeth.”

Teyrngedau eraill

Mae teyrngedau wedi’u rhoi ar y cyfryngau cymdeithasol.