Mae gyrrwr car wedi’i arestio ar amheuaeth o yfed a gyrru ar ôl taro ffens Parc y Rhath yng Nghaerdydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 7.26 fore heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 22) ar ôl i nifer o bobol glywed clec fawr.
Bu’n rhaid i ddiffoddwyr tân dorri’r car yn dilyn y digwyddiad.
Mae cryn ddifrod i’r cerbyd ond chafodd neb ei anafu.