Mae Boris Johnson wedi diolch i bleidleiswyr yng nghadarnleoedd y Blaid Lafur am droi at y Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol ddydd Iau (Rhagfyr 12).
Mae prif weinidog Prydain yn dweud bod y bobol hynny “wedi newid y tirlun gwleidyddol”.
Mae’n cynnal taith o amgylch nifer o etholaethau i ddathlu buddugoliaeth y Ceidwadwyr, gan gynnwys Sedgefield, etholaeth y cyn-brif weinidog Llafur Tony Blair.
“Dw i eisiau diolch i chi i gyd, am yr ymddiriedaeth ddangosoch chi ynom ni yn y Blaid Geidwadol ac ynof fi, a dw i’n gwybod pa mor anodd oedd hi, ac y gall fod i wneud y math hwnnw o benderfyniad,” meddai.
“A galla i ddychmygu pensiliau pobol uwchben y papur pleidleisio ac yn gwyro cyn dod tuag atom ni a’r Ceidwadwyr, a dw i’n gwybod fod pobol, o bosib, wedi torri arferion pleidleisio a gafodd eu sefydlu dros y blynyddoedd er mwyn pleidleisio drosom ni.
“A dw i eisiau diolch i bobol y gogledd-ddwyrain am bledleisio dros y Blaid Geidwadol ac fe fydda i’n eich talu am eich ymddiriedaeth – a phopeth rydyn ni’n ei wneud, popeth y byddaf i’n ei wneud yn brif weinidog, bydd y cyfan yn ymroi i ad-dalu eich ymddiriedaeth chi.
“A beth yw’r peth cyntaf fyddwn ni’n ei wneud? Cwblhau Brexit.”
Ymateb Llafur
Yn y cyfamser, mae nifer o gyn-aelodau seneddol Llafur yn parhau i feirniadu Jeremy Corbyn ar ôl iddyn nhw golli eu seddi.
Maen nhw’n beio’i arweinyddiaeth a’i ddiffyg sylw i’r cadarnleoedd gogleddol.
Yn ôl Helen Goodman, cyn-aelod seneddol Bishop Auckland, “amhoblogrwydd” Jeremy Corbyn oedd y prif reswm am golli’r etholiad, ac mae’n dweud iddo “fethu fel cyfathrebwr”.
Yn ôl Jenny Chapman, cyn-lefarydd Brexit Llafur, “allwch chi ddim rhedeg plaid sydd eisiau bod mewn llywodraeth ond sydd yn apelio at ryw draen o’r boblogaeth yn unig”.
Ond yn ôl Rachel Maskell, a gadwodd ei sedd yng Nghanol Caerefrog, “rhaid i bawb gymryd cyfrifoldeb”.