Mae Omar al-Bashir, cyn-arlywydd 75 oed Swdan, wedi’i garcharu am ddwy flynedd am lygredd a gwyngalchu arian.
Mae’r Llys Troseddol Rhyngwladol hefyd am iddo fynd ger eu bron ar amheuaeth o droseddau rhyfel a hil-laddiad am ei ran yng ngwrthdaro Darfur ers y flwyddyn 2000.
Fe fu trigolion y wlad yn protestio yn erbyn ei dri degawd wrth y llyw dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae Swdan hefyd wedi’i hamau o gefnogi brawychwyr, ac mae’r economi’n deilchion yn sgil blynyddoedd o sancsiynau.
Bu’n rhaid i brotestwyr gael eu tywys o’r llys gan y lluoedd arfog wrth iddo gael ei ddedfrydu.
Fe fu Omar al-Bashir yn y ddalfa ers mis Ebrill, pan gipiodd y lluoedd arfog rym.
Cafodd ei gyhuddo’n gynharach eleni ar ôl i filiynau o ddoleri, Ewros a phunnoedd Swdan gael eu symud o’i gartref.