Mae Nicola Sturgeon yn mynnu y bydd plaid yr SNP yn cynnal refferendwm annibyniaeth y flwyddyn nesaf.
Yn sgil honiadau fod cefnogaeth am annibyniaeth wedi gostwng mewn polau opiniwn yn ddiweddar, dywed Nicola Sturgeon: “Rwyf eisiau refferendwm y flwyddyn nesaf”.
Ychwanegodd bod ei neges “wedi bod yn gyson drwy gydol yr etholiad”.
“Fy neges ar ddechrau’r ymgyrch oedd pleidleisiwch dros yr SNP er mwyn cadw Boris Johnson allan, er mwyn dianc oddi wrth Brexit ac er mwyn rhoi dyfodol yr Alban yn nwylo’r Alban”, meddai Nicola Sturgeon.
Er mwyn cynnal ail refferendwm ar annibyniaeth, byddai’n rhaid i Senedd yr Alban gael pwerau Section 30, ac ar hyn o bryd byddai’n rhaid iddynt gael eu rhoi gan San Steffan.