Gallai Cymdeithas Bêl-droed Cymru golli arian wrth gystadlu yng nghystadleuaeth Ewro 2020 y flwyddyn nesaf, yn ôl eu prif weithredwr Jonathan Ford.
Fe fydd tîm Ryan Giggs yn chwarae yn erbyn y Swistir a Twrci yn Baku cyn teithio i Rufain i herio’r Eidal, ac fe allen nhw orfod gwneud taith hir arall – i Baku eto, o bosib – pe baen nhw’n cyrraedd yr wyth olaf.
Mae’n daith 3,000 milltir o Gaerdydd i brifddinas Azerbaijan, a 2,750 milltir o Baku i Rufain ond hyd yn oed cyn i’r gystadleuaeth ddechrau, mae disgwyl i’r garfan dreulio peth amser ym mhrifddinas Azerbaijan er mwyn ymgyfarwyddo â’r gwres llethol.
Fe wnaeth y Gymdeithas Bêl-droed elw o £3m wrth gyrraedd Ewro 2016 yn Ffrainc, gyda’r holl elw’n cael ei fuddsoddi mewn cyfleusterau ar bob lefel o lawr gwlad i’r gêm broffesiynol.
Ond mae’n rhaid i bob tîm dalu eu costau eu hunain ar gyfer y gystadleuaeth.
“Mae’n cael ei rannu rhwng y chwaraewyr a’r costau ac yn ddelfrydol, fe fyddech chi eisiau dod â pheth adref i’w fuddsoddi mewn pêl-droed er mwyn sicrhau eich bod chi’n cael mynd dro ar ôl tro,” meddai Jonathan Ford.
“Ond mae’r costau sy’n gysylltiedig â hi’n syfrdanol, ac mae’n rhaid i ni wario arian mewn modd rhesymegol yn anad dim arall.
“Dw i ddim yn meddwl bod y bwrdd yn mynd i fod yn ddiolchgar iawn i fi am golli arian ond oes, mae yna lawer o gostau ynghlwm.”
Dim cysondeb
Mae’n dweud ymhellach nad oes cysondeb rhwng y teithiau mae’r timau i gyd yn gorfod eu gwneud ar gyfer y gystadleuaeth, gyda Lloegr yn wynebu’r posibilrwydd o ddod adref ar gyfer rownd yr wyth olaf.
“Os yw Gogledd Iwerddon yn cymhwyso trwy’r gemau ail gyfle, mae’n rhaid iddyn nhw fynd i Ddulyn, a dim ond mynd ar fws sy’n rhaid i Loegr ei wneud.
“Fe allech chi ddadlau bod gan rai timau fantais o fod gartref a mantais ariannol.
“Mae’n gystadleuaeth anodd o ran trefniadau i ni ond mae tipyn o waith cynllunio wedi cael ei wneud.
“Ond ar ddiwedd y dydd, fe wnawn ni roi’r cyfle gorau posib i’r tîm fwrw ati a bod yn llwyddiannus ar y cae.”