Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, yn honni mai Boris Johnson yw’r “perygl mwyaf i’r Alban o unrhyw Brif Weinidog Torïaidd yn y cyfnod modern”.
Mewn llythyr agored i bleidleiswyr, anogodd Nicola Sturgeon bleidleiswyr i gefnogi ei phlaid hi.
Wrth ymateb, disgrifiodd y Ceidwadwyr Albanaidd Nicola Sturgeon fel y “person mwyaf ymrannol yng ngwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig.”
Mae cynlluniau Boris Johnson ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yr amgylchedd a Brexit yn cael eu trafod yn y llythyr – sy’n gorffen gyda Nicola Sturgeon yn dweud na all yr Alban “fforddio pum mlynedd arall o Boris Johnson.”