Mae Jeremy  Corbyn wedi annog pleidleiswyr i bleidleisio “dros obaith” a chefnogi Llafur yn yr “etholiad pwysicaf mewn cenhedlaeth.”

Diwrnod cyn i’r wlad bleidleisio, mae arweinydd y blaid Lafur wedi ailadrodd addewid ei baid i “achub y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”

Mae hefyd wedi pwysleisio y byddai ei blaid yn cynnal ail refferendwm Brexit.

Mae Jeremy Corbyn yn dal i gredu y gall ddod yn Brif Weinidog er nad yw’r Blaid Lafur yn mynd i mewn i’r etholiad cyffredinol fel ffefrynnau.

Bydd yn dibynnu ar bleidleiswyr sydd heb benderfynu sut i bleidleisio i’r blaid Lafur  er mwyn gallu cyflawni hynny.

Dywed: “Fy neges i’r holl bleidleiswyr sydd heb benderfynu yw bod gallwch bleidleisio dros obaith yn yr etholiad hwn.

“Fe wnawn achub y Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy ei ariannu yn iawn, drwy roi terfyn ar breifateiddio a pheidio â’i werthu i Donald Trump.”