Mae economi’r Deyrnas Unedig wedi dioddef ei dri mis gwaethaf ers dros ddegawd wedi i’r economi fethu tyfu eto fis Tachwedd.

Dywed Swyddfa Ystadegau Gwladol fod yr economi wedi gweld dim twf fis Tachwedd yn dilyn dau fis ostyngiad mewn Cynnyrch Domestig Gros.

Dyma’r tro cyntaf mae economi’r Deyrnas Unedig heb dyfu am dri mis ers 2009.

Dywed Swyddfa Ystadegau Gwladol fod yr economi ddim ond wedi tyfu 0.7% ers mis Tachwedd y llynedd – y perfformiad gwaethaf ers Mehefin 2012.

Dywed dadansoddwr economaidd o’r Resolution Foundation, Jack Leslie: “Mae economi’r Deyrnas Unedig wedi arafu nes y mae wedi stopio tyfu’n llwyr yn ystod 2019.”