Fe fydd dyn 51 oed yn mynd gerbron ynadon yn Chelmsford, Essex heddiw (dydd Gwener, Rhagfyr 6) ar gyhuddiad o lofruddio bachgen 12 oed fu farw ar ôl achos o daro a ffoi tu allan i ysgol.
Bu farw Harley Watson yn yr ysbyty ar ôl i gar daro plant oedd yn gadael ysgol uwchradd Debden Park yn Loughton toc cyn 3.20yp ar Ragfyr 2.
Mae Terence Glover, o Loughton, wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth, 10 cyhuddiad o geisio llofruddio a gyrru’n beryglus mewn cysylltiad â’r digwyddiad, meddai Heddlu Essex.
Mae’r 10 cyhuddiad o geisio llofruddio yn ymwneud ag anafiadau a gafodd dynes, chwe bachgen a thair merch rhwng 12 a 23 oed yn y gwrthdrawiad.
Mae’r heddlu’n parhau i apelio am wybodaeth i’r digwyddiad.
Mewn teyrnged i Harley Watson, dywedodd ei deulu ei fod yn fachgen “da, clên, cymwynasgar a hyfryd.”
Hyd yn hyn mae mwy na £54,000 wedi’i gyfrannu ar dudalen GoFundMe.com er cof amdano.
Mae disgwyl i Terence Glover fynd gerbron ynadon Chelmsford heddiw.