Mae Jeremy Corbyn wedi dweud ei fod yn “ymddiheugar” am “bopeth sydd wedi digwydd” yn ei blaid o ran gwrth-semitiaeth.
Roedd arweinydd y Blaid Lafur o dan bwysau wedi iddo wrthod ymddiheuro bedair gwaith yn ystod cyfweliad BBC gyda Andrew Neil wythnos diwethaf.
Gofynnwyd iddo ymddiheuro i’r gymuned Iddewig drachefn yn ystod cyfweliad ar raglen This Morning ITV.
Dywed Jeremy Corbyn: “Dyw fy mhlaid na fi ddim yn derbyn gwrth-semitiaeth o unrhyw fath, yn amlwg dwi’n ymddiheugar iawn am bopeth sydd wedi digwydd”.
“Pleidiau eraill wedi cael eu heffeithio gan wrth-semitiaeth”
Wedi iddo ymddiheuro, aeth Jeremy Corbyn ymlaen i honni nad y Blaid Lafur yn unig sydd wedi cael ei effeithio gan wrth-semitiaeth.
“Dwi eisiau gwneud hyn yn glir, dwi yn delio gydag ef, dwi wedi delio ag ef, mae pleidiau eraill wedi cael eu heffeithio gan wrth-semitiaeth”.
“Mae ymgeiswyr wedi cael eu tynnu yn ôl gan y Democratiaid Rhyddfrydol, gan y Ceidwadwyr a gennym ni.”