Mae Donald Trump wedi tanio ffrae ddiplomyddol o’r newydd gydag Arlywydd Ffrainc Emmanuel Macron, gan ei gyhuddo o “sarhau” cynghreiriaid NATO.
Dywedodd arlywydd yr Unol Daleithiau, sydd yn Llundain ar gyfer cyfarfod deuddydd o arweinwyr y gynghrair, fod Macron wedi bod yn “amharchus iawn” ar ôl iddo honni bod y gynghrair yn “hollol hurt”.
Daeth ymosodiad Emmanuel Macron yn dilyn cyrch Twrci yn erbyn y Cwrdiaid yng ngogledd Syria heb rybuddio aelodau eraill Nato – symudiad a ddychrynodd gynghreiriaid eraill.
“Mae’n ddatganiad cas iawn, iawn,” meddai Donald Trump, wrth siarad yn ystod cyfarfod brecwast gydag ysgrifennydd cyffredinol Nato, Jens Stoltenberg ym mhreswylfa llysgennad yr Unol Daleithiau.
“Rwy’n credu bod ganddyn nhw gyfradd ddiweithdra uchel iawn yn Ffrainc. Nid yw Ffrainc yn gwneud yn dda yn economaidd o gwbwl.
“Mae’n ddatganiad anodd iawn i’w wneud pan fyddwch chi’n cael cymaint o anhawster yn Ffrainc, pan edrychwch ar yr hyn sy’n digwydd gyda’r festiau melyn.
“Maen nhw wedi cael blwyddyn arw iawn. Allwch chi ddim mynd o gwmpas i wneud datganiadau fel yna am Nato. Mae’n amharchus iawn.”