Mae gweithwyr sydd heb anabledd yn cael eu talu dros 12% yn fwy na’u cydweithwyr anabl, yn ôl ffigurau newydd gan y Llywodraeth.
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi darganfod fod tâl pobol heb anabledd, ar gyfartaledd, £12.11 yr awr yn 2018, o’i gymharu â £10.63 i bobol gydag anableddau.
Llundain oedd a’r bwlch tâl mwyaf yn y Deyrnas Unedig, sef 15.3%, tra bod yr Alban gyda’r isaf, ar 8.3%.
Roedd gan ddynion fwlch ehangach o 11.6% na merched, sy’n 10.1%.
Dyma’r dadansoddiad cyntaf i’r bwlch tal anabledd yn y Deyrnas Unedig.
Mae’r arolwg yn dangos mai gweithwyr anabl gyda nam meddyliol oedd yn wynebu’r bwlch mwyaf, sef 18.6%, tra bod y bwlch i weithwyr gyda nam corfforol yn 9.7%.
Mae oddeutu chwarter o’r gwahaniaeth mewn tal oherwydd ffactorau fel yr hyn mae’r gweithwyr yn ei wneud fel rhan o’u swydd, a pha mor gymwysedig ydyn nhw, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.