Mae teulu dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr M4 wedi talu teyrnged i “gymeriad â phersonoliaeth gref.”

Bu farw Colin Roberts o Ystradgynlais, Powys, yn dilyn y trawiad rhwng Cyffordd 47 a 48 Abertawe, am oddeutu 4pm ddydd Sadwrn (Tachwedd 30).

“Roedd gan Colin, neu ‘Col Boy’ fel yr oedd yn cael ei adnabod gan lawer, bersonoliaeth gref. Byddai’n gwneud unrhyw beth i unrhyw un ac mewn gwirionedd weithiau roeddem ni’n arfer meddwl ei fod yn gwneud gormod,” meddai ei deulu, wrth dalu teyrnged i’r dyn 69 oed.

“Trwy gydol ei oes bu’n gyrru lorïau ac roedd ganddo angerdd am feiciau modur ac yn fwy diweddar roedd wedi cymryd diléit at sgïo. Dyna oedd ein Colin ni, bob amser yn byw bywyd i’r eithaf ac yn edrych am yr antur nesaf. Roedd mor ifanc ei ysbryd ac roeddech chi bob amser yn gwybod pan oedd e o’ch cwmpas, oherwydd y byddai ei bersonoliaeth yn llenwi’r ystafell.

“Ychydig flynyddoedd yn ôl fe aeth yn sâl iawn ac roedden ni’n meddwl ein bod ni’n mynd i’w golli bryd hynny. Ond fe frwydrodd drwyddi a chamu ymlaen gyda’r un bri am fywyd.

“Mae ei golli o dan yr amgylchiadau hyn yn dorcalonnus, pan oedd ganddo gymaint i fyw amdano a chymaint mwy i’w roi.

“Rydym am ddiolch i bawb sydd wedi cysylltu â’r teulu i gynnig eu cariad a’u cefnogaeth. Mae’n llenwi ein calonnau i wybod ei fod mor annwyl gan gynifer.

“Yn olaf, hoffem ddiolch i’r holl wasanaethau brys a fynychodd lleoliad y ddamwain a rhoi o’u gorau dros Colin.”

Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i’r gwrthdrawiad, a oedd hefyd yn cynnwys Audi Q3 llwyd. Dylai unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad nad yw wedi siarad â’r heddlu eto, neu unrhyw un sydd â lluniau dash-gam a allai gynorthwyo’r ymchwiliad, gysylltu â’r Uned Plismona Ffyrdd trwy ffonio 101, gan ddyfynnu 1900441957