Dydy Dominic Raab “ddim wir yn poeni” am golli ei sedd yn yr etholiad cyffredinol.
Ar drothwy’r etholiad ar Ragfyr 12, mae awgrym fod nifer o Geidwadwyr blaenllaw mewn perygl o golli eu seddi yn sgil helynt Brexit, ac mae Ysgrifennydd Tramor San Steffan yn eu plith.
Mae’n cynrychioli’r Ceidwadwyr yn etholaeth Esher a Walton yn Surrey, ac mae’n derbyn nad oes modd “cymryd unrhyw beth yn ganiataol” er bod ganddo fe fwyafrif o 23,298 yn yr etholiad diwethaf.
Mae pôl gan Deltapoll ar ran yr Observer yn awgrymu y gallai nifer fawr o bleidleiswyr bleidleisio mewn modd tactegol.
Y Ceidwadwyr fu mewn grym yn ei etholaeth ers 1910, ac fe bleidleisiodd 58% o’r etholaeth o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, er bod Dominic Raab yn Brexitiwr.
Ond pe bai cefnogwyr Llafur yn troi at y Democratiaid Rhyddfrydol neu pe bai mwy o bobol o dan 40 oed yn pleidleisio, fe allai golli ei sedd.
‘Mae’r polau’n newidiol’
Wrth ymateb, dywed Dominic Raab fod canlyniadau polau piniwn yn “newidiol”.
“Ond un peth mae’n ei ddangos i chi, yn fy etholaeth i ac i fyny ac i lawr y wlad, yw’r perygl o senedd grog ac mae’n risg wirioneddol os ydych chi’n pleidleisio unrhyw ffordd arall ac eithrio’r Ceidwadwyr.
“Ond mae gyda ni gynllun positif iawn er mwyn cyflawni Brexit, symud y wlad yn ei blaen a dw i’n hyderus o fynd â hynny at y pleidleiswyr.”