Mae newyddiadurwr 96 oed wedi penderfynu dirwyn i ben y gymdeithas sy’n gwarchod rheolau’r collnod.
Yn ôl y newyddiadurwr John Richards, mae “anwybodaeth a diogi” wedi trechu’r gymdeithas a gafodd ei sefydlu yn 2001.
Mae’r gymdeithas yn rhoi sylw i dair rheol wrth ddefnyddio’r collnod, ac yn nodi enghreifftiau ar eu gwefan ynghylch pryd i ddefnyddio’r collnod ac ym mle yn y frawddeg.
Diddymu’r gymdeithas
Ar wefan y gymdeithas, dywed John Richards mai anwybodaeth a diogi yw un o’r prif resymau dros ddiddymu’r gymdeithas, ynghyd â’i oedran.
“Mae yna ddau reswm.
“Un yw fy mod i’n 96 oed ac yn torri’n ôl ar fy ymrwymiadau, a’r ail yw fod llai o sefydliadau ac unigolion yn poeni bellach am y defnydd cywir o’r collnod yn yr iaith Saesneg.
“Rydyn ni a’n cefnogwyr lu ar draws y byd wedi gwneud ein gorau ond mae’r anwybodaeth a diogi sydd yn bresennol yn yr oes sydd ohoni wedi ennill!”
Mae’n dweud y bydd y wefan yn parhau am gyfnod byr.