Mae Jeremy Corbyn yn mynnu nad yw’n “fygythiad i unrhyw gymuned”, wrth i bôl piniwn awgrymu bod 84% o bobol yn credu ei fod e’n fygythiad i Iddewon yng ngwledydd Prydain.
Mae arweinydd y Blaid Lafur dan y lach ynghylch y ffordd mae e wedi ymdrin â’r helynt gwrth-Semitiaeth o fewn y blaid.
Ac mae’n cyfaddef ei fod yn difaru na chafodd y mater ei ddatrys yn gynt.
Yn yr un pôl gan y Sunday Telegraph, dim ond 15% sy’n credu bod Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn fygythiad i Iddewon yng ngwledydd Prydain.
“Dw i ddim yn fygythiad i unrhyw gymuned o gwbl yn y wlad hon,” meddai Jeremy Corbyn wrth ymateb ar raglen Sophy Ridge on Sunday.
“Dw i wedi treulio fy mywyd yn brwydro yn erbyn hiliaeth ac yn brwydro yn erbyn ymosodiadau hiliol.
“Yn syml iawn, dw i’n dweud hyn: does dim lle beth bynnag i wrth-Semitiaeth yn ein cymdeithas ni, fyth.”
Gwarchod Iddewon
Mae’n addo gwarchod addoldai pe bai Llafur yn dod i rym.
“Dw i am egluro wrth y gymuned Iddewig, y gymuned Foslemaidd ac unrhyw gymuned arall, pe bai unrhyw un dan fygythiad o gael eu herlid trwy ymosodiadau ar eu temlau, mosgiau, synagogau neu addoldai eraill, yna byddan nhw’n ddiogel iawn o dan lywodraeth Lafur.
“Fe wnawn ni sicrhau bod ariannu llawn o’r holl fesurau diogelwch sydd eu hangen arnyn nhw a pharch llawn at eu crefyd, eu ffydd a’u lle yn ein cymdeithas.
“Fe wnaeth yr Iddewon ddioddef fel neb arall yn yr ugeinfed ganrif drwy wrth-Semitiaeth yn yr Almaen, a arweiniodd at erchyllterau’r Holocost ac mae pobol Iddewig wedi gwneud cyfraniad anhygoel i’m plaid i, i’n hundebau llafur ni, i’n bywydau ni a bywyd deallusol y wlad hon.
“Dw i’n gwerthfawrogi hynny ac yn diolch iddyn nhw am bopeth maen nhw’n ei wneud.
“Dw i eisiau i bob cymuned fod yn ddiogel.”