Mae cwmni ynni Npower wedi cyhoeddi cynlluniau i ail-strwythuro ei fusnes yng ngwledydd Prydain ond mae ’na bryderon ymhlith undebau y gallai arwain at golli hyd at 4,500 o swyddi a chau nifer o ganolfannau galw.
Mae’r cyhoeddiad wedi ei ddisgrifio fel “ergyd drom” gan swyddog undeb, yn enwedig gan ei fod wedi dod ychydig wythnos cyn y Nadolig.
Fe fydd gweithwyr yn cael manylion pellach yn ddiweddarach heddiw (dydd Gwener, Tachwedd 29).
Dywedodd Johannes Teyssen, prif weithredwr E.ON, perchennog Npower, bod y farchnad yn “hynod o gystadleuol” a’u bod wedi dweud eisoes y byddan nhw’n gwneud popeth posib i wneud y busnes yn broffidiol unwaith eto.
Yn ôl llefarydd y GMB mae’n rhaid i’r Llywodraeth “ddeffro’n gyflym i’r effaith mae’r cap ar brisiau yn ei gael ar swyddi gyda chwmnïau ynni yn y Deyrnas Unedig.”
Dywedodd E.ON y byddan nhw’n parhau gyda’u hymdrechion i dorri costau ond gyda’r pwyslais ar gadw eu cwsmeriaid.