Mae Boris Johnson wedi honni y byddai’n costio rhagor na £150m a chymryd o leiaf naw mis i gynnal refferendwm ar Brexit ac annibyniaeth yr Alban.

Dywed y Prif Weinidog y byddai Nicola Sturgeon yn “gorchymyn refferendwm rhanedig” arall pe bai Llafur yn ffurfio clymblaid gyda nhw.

Mae Boris Johnson yn lansio maniffesto Albanaidd y Ceidwadwyr bore ’ma (Tachwedd 26), a mynnodd mai ffocws ei blaid yw dod a therfyn i Brexit a “blaenoriaethau pobol”.

Yn ôl ymchwil gan y Blaid Geidwadol, byddai yn cymryd oleiaf naw mis i gynnal dau refferendwm gan gostio £155 miliwn – £138 miliwn am y refferendwm Brexit a £17 miliwn ar gyfer refferendwm ar annibyniaeth Albanaidd.