Mae Boris Johnson yn addo cyflwyno’i fargen Brexit eto cyn y Nadolig pe bai’r Ceidwadwyr mewn grym ar ôl yr etholiad cyffredinol ar Ragfyr 12.
Mae disgwyl i brif weinidog Prydain lansio maniffesto’r Blaid Geidwadol sy’n cynnwys addewid i agor “pennod newydd” yn hanes Prydain, a sicrhau bod yr ymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd yn digwydd cyn diwedd mis Ionawr.
Fe fydd y maniffesto’n cynnwys “clo trethi triphlyg”, sy’n golygu na fydd cyfraddau’r dreth incwm, yswiriant gwladol na TAW yn codi.
Mae’r Ceidwadwyr hefyd yn addo hwb o £1bn i ofal plant ar ôl ysgol ac yn ystod y gwyliau, gan gynnig y gofal hwn i 250,000 yn rhagor o blant oed cynradd dros yr haf.
Fe fydd £6.3bn yn cael ei neilltuo ar gyfer mesurau yni i dorri biliau tanwydd 2.2m o gartrefi.
Fe fydd cronfa sgiliau cenedlaethol gwerth £3bn hefyd yn cael ei sefydlu, yn ogystal â chronfa gwerth £2bn i fynd i’r afael â thyllau ar y ffyrdd.
Bil Ymadael
Ond yr addewid o “anrheg Nadolig cynnar” sy’n debygol o gael sylw dros yr wythnosau nesaf.
Mae Boris Johnson yn gobeithio y bydd e’n gallu apelio i bleidleiswyr sydd wedi diflasu ar broses Brexit, a cheisio ail-gyflwyno’i fargen cyn y Nadolig.
“Wrth i bobol eistedd i dorri eu twrci y Nadolig hwn, rwy eisiau iddyn nhw fwynhau’r gwyliau heb y ddrama Brexit box-set sy’n ymddangos yn ddiddiwedd,” meddai ar drothwy’r lansiad yng nghanolbarth Lloegr.
“Fe fydd maniffesto’r Ceidwadwyr rwy’n falch iawn o gael ei lansio heddiw yn cyflawni Brexit ac yn ein galluogi ni i symud yn ein blaenau a datgloi potensial y wlad gyfan.”
Er na fydd modd pasio’r bil cyn y Nadolig, gobaith Boris Johnson yw sicrhau ei fod yn dod yn gyfraith gwlad erbyn Ionawr 31, sef y dyddiad cau diweddaraf ar gyfer Brexit.
Mae disgwyl i’r senedd newydd gyfarfod am y tro cyntaf ar Ragfyr 17, bum niwrnod ar ôl yr etholiad cyffredinol.
Mae disgwyl i’r ddau ddiwrnod gyntaf gael eu neilltuo ar gyfer tyngu llw, a’r trydydd diwrnod ar gyfer Araith y Frenhines.
Mae’n golygu mai’r cyfle cyntaf i drafod Brexit fydd dechrau wythnos y Nadolig.