Mae nifer y bobol ifanc sydd ddim mewn gwaith, addysg na hyfforddiant – Neets – wedi cynyddu 43,000 mewn blwyddyn.

Neets yw’r acronym am bobol ifanc rhwng 16 a 24 oed ‘not in education, employment or training’.

Roedd yna 800,000 o Neets ym Mhrydain ar derfyn mis Medi, sef cynnydd o 43,000 ers yr un cyfnod y llynedd.

Mae yn golygu fod 11.6% o holl bobol ifanc 16-24 oed yng ngwledydd Prydain yn y categori Neets.