Mae teyrnged wedi ei thalu i’r Parchedig J Towyn Jones a fu farw’r wythnos hon yn 77 oed.
Roedd yn adnabyddus fel hanesydd, awdur, ac adroddwr straeon am ysbrydion, ac am gyfrannu yn gyson i raglenni Radio Cymru ac S4C.
Cyhoeddodd nifer o lyfrau ar hyd ei oes, gan gynnwys Ar Lwybr Llofrudd (Gomer 1970), Borley Cymru (Gwasg Carreg Gwalch 2001), a Rhag Ofn Ysbrydion (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion 2009).
Cafodd ei eni yn Sir Gaerfyrddin, a chyn ei ordeinio yn weinidog yn 1964, bu’n fyfyriwr Celf. Roedd yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.
Yn ogystal â’i ddiddordeb mewn Celf, roedd yn hanesydd brwd a enillodd enw fel hanesydd lleol. Roedd yn llywydd ar Gymdeithas Hynafiaethau Sir Gaerfyrddin.
Gwasanaethodd fel gweinidog mewn sawl capel yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.
Dyn “ecsentrig a diwylliedig iawn”
Ar ôl cychwyn ei yrfa gyda’r weinidogaeth yn Sir Benfro yn 1964, fe symudodd J Towyn Jones i ardal Caerfyrddin yn 1974.
Roedd yn weinidog yn Heol Awst yng Nghaerfyrddin, un o gapeli mwyaf Cymru gyda 1,000 o aelodau.
Dyna pryd y daeth un o gynghorwyr y dref i’w adnabod.
“Roedd Towyn yn berson ecsentrig iawn, i’w weld o gwmpas y dref yn gwisgo bow-tei bob amser,” cofia Alun Lenny a oedd yn ohebydd i’r Carmarthen Journal yn 1974.
“Fe ddywedodd e’ wrtha i unwaith mai yn Oes Edward y byddai wedi hoffi byw, sef can mlynedd yn ôl.
“Ac roedd ei wisg yn adlewyrchu hynny.
“Ac rwy’n cofio galw i’w weld un noson, ac roedd yn gwisgo smoking jacket sidan.
“Roedd e’ hefyd yn hoff iawn o opera. Byddai Towyn yn mynd unwaith y mis i bregethu yn y capeli Cymraeg yn Llundain, ac yn aros yno am ddwy neu dair noson ac yn manteisio ar y cyfle i fynd i weld opera…
“Roedd e’n ecsentrig a diwylliedig iawn ac roedd ganddo ddiddordeb byw mewn ysbrydion…
“Hyd yn oed mor ddiweddar â Chalan Gaeaf eleni, fe wnaeth e’ gyflwyniad am ysbrydion yn yr Egin, canolfan S4C yng Nghaerfyrddin.
“Ac fe oedd e’ yn Llundain yn pregethu ar y dydd Sul, y diwrnod cyn iddo fe farw yn sydyn yn ei gartref yng Nghaerfyrddin ar y dydd Llun.”