Mae dau o bobol wedi cael eu hanafu yn dilyn tân mewn bloc o fflatiau myfyrwyr yn Bolton.

Mae lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos diffoddwyr yn ceisio diffodd y tân ar loriau ucha’r adeilad chwe llawr neithiwr (nos Wener, Tachwedd 16).

Cafodd dau o bobol driniaeth yn y fan a’r lle, ac mae’r gwasanaeth tân yn dal ar y safle heddiw.

Mae llygad-dystion yn dweud iddyn nhw weld y tân yn mynd i fyny cladin ar ochr yr adeilad.

Mae myfyrwyr wedi cael eu symud i lety cyfagos, ac mae’r ffyrdd yn yr ardal ynghau am y tro.

Dywed y brifysgol eu bod nhw’n cynnig pob cymorth i’r myfyrwyr.