Alex Salmond
Fe fydd Prif Weinidog yr Alban yn dweud bod rhaid i’r wlad gael rheolaeth ar ei hadnoddau ynni ei hun.
Dyna fydd neges Alex Salmond wrth agor cynhadledd flynyddol ei blaid, yr SNP, ychydig fisoedd ar ôl iddyn nhw ennill mwyafrif clir yn Senedd Holyrood.
Fe fydd yn dweud ei bod hi’n anghywir bod rhai pobol yn gorfod byw heb ddigon o danwydd yn y wlad tra bod gan yr Alban ddigonedd o ffynonellau ynni.
“Cael cyfrifoldeb am ein hadnoddau ynni ein hunain gydag annibyniaeth yw’r allwedd i sicrhau fod y potensial anferth hwn yn gweithio er budd pobol ac economi’r Alban,” meddai, yn ôl dyfyniadau sydd wedi eu gollwng ymlaen llaw.
Yn ystod y dyddiau diwetha’, mae cwmni BP wedi cyhoeddi bwriad i ddatblygu maes olew gwerth £4.5 biliwn i’r gorllewin o ynysoedd Shetland.
Hyder am annibyniaeth
Mae disgwyl mwy o gynrychiolwyr nag erioed a mwy o ymwelwyr tramor nag erioed yn y gynhadledd yn Inverness ac fe fydd y blaid yn hyderus ar ôl pôl piniwn sy’n cefnogi annibyniaeth i’r Alban.
Yn ôl yr arolwg yn yr Independent on Sunday a’r Sunday Mirror, roedd 39% o bobol gwledydd Prydain o blaid hynny a dim ond 38% yn erbyn,
Ond fe fydd Alex Salmond yn gwrthod galwadau Prif Weinidog Prydain, David Cameron, am refferendwm cynnar ar annibyniaeth.
“Fe’i gwnes hi’n glir y bydden ni’n cynnal refferendwm yn ail hanner y tymor seneddol,” meddai. “Dyna ddywedson ni a dyna’r hyn yr ’yn ni’n bwriadu ei wneud, a fydd holl frygowthan y Prif Weinidog ddim yn newid hynny.”