Mae rheolwr pwll glo Gleision ger Pontardawe gafodd ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad drwy esgeulustod dybryd wedi cael ei ryddhau ar fechniaeth.

Cafodd rheolwr y pwll, Malcolm Fyfield, 55 ei arestio ddydd Mawrth a’i holi yng ngorsaf yr heddlu ym Mhort Talbot fel rhan o ymchwiliad yr heddlu i ddamwain pwll y Gleision ar 15 Medi.

Bu farw pedwar o lowyr yn y ddamwain ym mhwll Gleision yng Nghilybebyll fis diwethaf. Cafodd David Powell, 50, Philip Hill, 44, Garry Jenkins, 39, a Charles Breslin, 62, eu dal yn gwaeth yn y pwll ar ôl iddo lenwi â dŵr.

Roedd Malcolm Fyfield wedi llwyddo i ddianc o’r pwll ond cafodd ei gludo i’r ysbyty a bu mewn cyflwr difrifol.

Fe gadarnhaodd yr heddlu  ddoe bod dyn 55 oed wedi ei ryddhau ar fechniaeth tra bod eu hymchwiliad i’r ddamwain yn parhau.