Nid yw’r llifogydd dros y dyddiau diwethaf yn “rhywbeth sydd angen ei ystyried fel argyfwng cenedlaethol”, yn ôl y Prif Weinidog Boris Johnson.
Fe wnaeth ei sylwadau wrth ymweld â thref Matlock yn Swydd Derbyn ddoe, lle’r addawodd y byddai’r Llywodraeth yn helpu ardaloedd sydd wedi cael eu taro gan lifogydd.
Yn gynharach yn y dydd, cafwyd hyd i gorff dynes a oedd wedi cael ei hysgubo gan lifogydd ger tref gyfagos Matlock.
Mae saith o rybuddion llifogydd difrifol – sy’n golygu perygl i fywyd – yn dal mewn grym yn nalgylch afon Don yn Swydd Efrog, a 56 o rybuddion llifogydd, y mwyafrif yn ngogledd Lloegr.
Mae un rhybudd llifogydd mewn grym yng Nghymru, yn rhan isaf dyffryn Dyfrdwy ger Llangollen, a dau rybudd melyn, y naill yn Sir Benfro a’r llall ym Mro Morgannwg.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn darogan diwrnod oerach a sychach heddiw, gydag eira’n debygol ar fynyddoedd Eryri a rhannau eraill o ucheldir Cymru.