Fe fydd yr SNP yn lansio ei hymgyrch etholiadol yng Nghaeredin heddiw (dydd Gwener, Tachwedd 8).

Mae disgwyl i’r blaid gyhoeddi Bil er mwyn diogelu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) rhag cael ei ddefnyddio fel “arf bargeinio”.

Mae disgwyl i arweinydd y blaid, Nicola Sturgeon, ddweud y bydd y Bil, a fydd yn cael ei gyflwyno yn San Steffan yn ystod y Senedd nesaf, yn cael ei gynnwys ym maniffesto’r SNP.

Yn ôl y blaid, fe fydd y Bil Diogelu’r GIG yn sicrhau nad yw’r gwasanaeth iechyd yn cael ei ddefnyddio fel “arf fasnachu” mewn cytundebau masnach.

Er bod polisi iechyd wedi cael ei ddatganoli i Senedd yr Alban, mae Nicola Sturgeon yn honni y gallai Llywodraeth San Steffan “werthu” rhannau o’r GIG mewn trafodaethau masnach.

Mae’r gwrthbleidiau wedi mynegi pryder am y posibilrwydd y gallai rhai o wasanaethau’r GIG gael eu gwerthu i gwmnïau iechyd o’r Unol Daleithiau mewn cytundeb masnach.

Cyn lansio’r ymgyrch etholiadol, dywedodd Nicola Sturgeon bod pleidlais i’r SNP yn “bleidlais i ddianc rhag Brexit a rhoi cyfle i bobl yr Alban ddewis dyfodol gwell fel gwlad annibynnol fel nad ydyn ni’n gorfod poeni am ein GIG yn cael ei werthu gan lywodraeth San Steffan.”

Mae hi wedi galw ar y gwrthbleidiau i gefnogi’r bil.