Mae grŵp o Gymry amlwg, sy’n cynnwys yr actor Michael Sheen a’r cerddor Cerys Matthews, wedi cyhoeddi llythyr agored yn galw ar wleidyddion i gefnogi enw uniaith Gymraeg i’r Senedd mewn pleidlais yr wythnos nesaf.
Daw cyhoeddiad y llythyr cyn rali a gynhelir gan ymgyrchwyr yfory (dydd Sadwrn, Tachwedd 9) o blaid defnyddio’r enw ‘Senedd’ yn unig. Er bod cefnogaeth drawsbleidiol i gadw at un enw Cymraeg ar gyfer y ddeddfwrfa genedlaethol, mae’r Gweinidog Jeremy Miles wedi penderfynu chwipio holl Weinidogion Llywodraeth Cymru yn erbyn enw uniaith Gymraeg.
Mae dros 30 o bobol wedi llofnodi’r llythyr, yn cynnwys y dyfarnwr rygbi Nigel Owens; y DJ Huw Stephens; y bardd Gwyneth Lewis; a’r digrifwr, Tudur Owen.
Y llythyr
“Ar un adeg yn hanes Cymru, gwnaed ymdrech benodol a bwriadol drwy’r gyfraith a gan yr awdurdodau i waredu popeth Cymraeg o bob rhan o fywyd cyhoeddus – o addysg a’r llysoedd i weinyddiaeth gyhoeddus ac enwau lleoedd. Bellach, mae consensws eang bod ein hiaith unigryw yn rhywbeth i’w thrysori a’i hawlio fel rhan o’n dyfodol.
“Mae enwi’r Senedd, ein deddfwrfa genedlaethol, yn arwyddocaol felly fel datganiad o’r hyn rydyn ni eisiau ei weld ar gyfer y cenedlaethau i ddod. Bydd rhoi enw uniaith Gymraeg ar ein sefydliad cenedlaethol pwysicaf yn anfon neges o bwys o ran y statws canolog ac arbennig rydym yn dymuno i’r iaith ei hawlio ym mywyd cyhoeddus y wlad. Mae hwn yn gyfle i ddangos bod y Gymraeg wir yn perthyn i bawb, ac yn cynnwys pawb o bob cefndir.
“Mae ‘Senedd’ yn cael ei ddefnyddio’n helaeth gan y rhan fwyaf o bobl eisoes, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae hynny’n gwbl naturiol gan ei fod yn adlewyrchu profiadau pawb sy’n byw yng Nghymru lle mae’r iaith yn gweu’n naturiol i’w bywydau beunyddiol – o enwau trefi a phentrefi sydd ag enwau uniaith Gymraeg i eiriau’r anthem genedlaethol.
“Gofynnwn felly i chi gefnogi’r enw uniaith Gymraeg ‘Senedd’ yn y bleidlais ar 13 Tachwedd, fel rhywbeth unigryw Gymreig i’w ddathlu ac i’w fwynhau gan bob un ohonom.”