Mae aelodau o’r gymuned Fietnamaidd wedi dod ynghyd ar gyfer gwylnos er cof am 39 o bobol y cafwyd hyd i’w cyrff yng nghefn lori yn Essex.

Roedd mwy na 100 o bobol yn y gwasanaeth eglwysig yn nwyrain Llundain, gyda chanhwyllau wedi’u gosod allan ar siâp ’39’ cyn cynnal offeren.

“Roedd y bobol hyn yn arfer byw yn ein plith ni, ac yn ciniawa gyda ni,” meddai’r Parchedig Simon Nguyen.

“Heddiw, dydyn nhw ddim bellach gyda ni.

“Rydym yn dangos ein cydymdeimlad i’r bobol hynny sydd wedi colli eu bywydau ar y ffordd i geisio rhyddid, urddas a hapusrwydd.”

Dywedodd yr heddlu ddydd Gwener (Tachwedd 1) fod lle i gredu bod yr holl bobol yng nghefn y lori’n dod o Fietnam.

Mae llywodraeth Fietnam yn dweud bod y digwyddiad yn “drasiedi ddyngarol ddifrifol”.