Mae dyn 22 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio babi deg mis oed ym Mancenion.

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Farnworth am oddeutu 5.30 neithiwr (nos Wener, Tachwedd 1).

Cafodd y babi ei chludo i’r ysbyty, lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae’r heddlu’n ymchwilio i’r digwyddiad.