Mae’r Llywodraeth yn bwriadu tynhau’r gyfraith o ran y defnydd o ffonau llaw wrth yrru.
Mae’r rheolau ar hyn o bryd yn golygu bod gyrwyr sy’n defnyddio eu ffonau symudol i ffilmio digwyddiad neu dynnu lluniau wrth yrru, yn osgoi cael eu herlyn.
Ond mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Grant Shapps wedi dweud y bydd adolygiad brys yn cael ei gynnal er mwyn tynhau’r rheolau yn ymwneud a ffonau llaw.
Yn gynharach eleni fe lwyddodd Ramsey Barreto i apelio yn erbyn dyfarniad ar ôl iddo ffilmio damwain ar ei ffôn tra roedd wrth y llyw. Roedd ei gyfreithwyr wedi dadlau bod y rheolau ond yn berthnasol os oedd ffon yn cael ei ddefnyddio i “gyfathrebu’n rhyngweithiol.”
Mae’r Adran Drafnidiaeth wedi dweud y bydd yn adolygu’r ddeddfwriaeth fel bod unrhyw yrrwr sy’n cael eu dal yn defnyddio ffon llaw tu ôl i’r llyw yn cael eu herlyn os ydyn nhw’n tecstio, tynnu lluniau, neu’n mynd ar y we. Mae disgwyl i’r cynigion fod mewn lle erbyn gwanwyn 2020.