Mae Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban ac arweinydd yr SNP, yn dweud y byddai llwyddiant i’r blaid yn yr etholiad cyffredinol ar Ragfyr 12 yn cadarnhau’r galw am ail refferendwm annibyniaeth i’r Alban.

Mae hi’n teithio i Stirling heddiw (dydd Mercher, Hydref 30), lle bydd hi’n ymuno ag Alyn Smith, ymgeisydd yr SNP yn y ddinas honno.

Mae disgwyl iddi herio’r Ceidwadwyr i gadw’r Alban yn yr Undeb Ewropeaidd yn ôl eu hewyllys.

“Mae’r SNP yn barod am etholiad,” meddai.

“Rydym yn sefyll yn barod i fynd â’r frwydr at y Torïaid, tynnu’r llywodraeth annemocrataidd hon i lawr, a rhoi’r cyfle i’r Alban ddianc rhag Brexit a phenderfynu ein dyfodol ein hunain.

“Mae’r Alban wedi cael ei hanwybyddu a’i thrin â dirmyg gan San Steffan, ac mae’r etholiad hwn yn gyfle i ddod â hynny i ben.

“Byddai buddugoliaeth i’r SNP yn alwad digamsyniol a diwrthdro am hawl yr Alban i ddewis ei dyfodol ei hun.”