Mae Boris Johnson yn dweud ei fod yn barod am etholiad cyffredinol “anodd”, ar ôl i Aelodau Seneddol gytuno i’w gynnal ar Ragfyr 12.

Yn dilyn ei fuddugoliaeth ar ei bedwerydd ymgais, fe ddywedodd ei bod yn bryd sicrhau bod Brexit yn mynd rhagddo.

Bydd y mesur sy’n galw’r etholiad yn cael ei drosglwyddo i’r Arglwyddi, ond does dim disgwl y bydd rhagor o oedi cyn iddo dderbyn caniatâd y Frenhines.

Cafodd y mesur ei dderbyn o 438 o bleidleisiau i 20, ac roedd gan y llywodraeth fwyafrif o ddim ond 20 mewn pleidlais ar symud y dyddiad.

“Mae’n bryd i’r wlad ddod ynghyd, cwblhau Brexit a symud yn ei blaen,” meddai Boris Johnson.

“Bydd yn etholiad anodd a byddwn yn gwneud ein gorau.”

Tra ei fod e’n ceisio mwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin, mae eisoes dan y lach am ohirio Brexit y tu hwnt i Hydref 31, ac mae Plaid Brexit hefyd wedi wfftio’i fargen gyda Brwsel.

Dydy hi ddim yn glir eto faint o bobol fydd yn troi allan ar gyfer yr etholiad Rhagfyr cyntaf ers bron i ganrif.

Cyfle ‘unwaith mewn cenhedlaeth’

Yn ôl Jeremy Corbyn, arweinydd Llafur, mae’r etholiad yn gyfle “unwaith mewn cenhedlaeth” i drawsnewid gwledydd Prydain.

Sêl bendith Jeremy Corbyn yn y pen draw sydd wedi galluogi’r etholiad i gael ei gynnal.

Fe fu dan bwysau ar ôl i’r SNP a’r Democratiaid ddweud dros y penwythnos eu bod nhw’n barod i gynnal etholiad cyffredinol.

Ond mae Llafur yn teimlo eu bod nhw ar drothwy colled arall.

Dim ond 127 allan o 244 o aelodau seneddol Llafur bleidleisiodd dros etholiad arall, gyda mwy na 50 yn llofnodi gwelliant yn galw am ohirio’r etholiad tan fis Mai y flwyddyn nesaf.