Bydd Aelodau Seneddol yn cael mwy o amser i graffu ar y fargen Brexit os ydyn nhw’n caniatáu etholiad brys, yn ôl Boris Johnson.

Mae’r Prif Weinidog eisiau etholiad ar Ragfyr 12 ac mae wedi apelio ar Dŷ’r Cyffredin i gefnogi’r dyddiad.

Daw ei gais wrth i’r Undeb Ewropeaidd bendroni ynghylch ymestyn Brexit – er bod disgwyl iddo ddigwydd ar Hydref 31.

Bu’n rhaid i Boris Johnson ofyn am estyniad ar ôl iddo fethu â chael Aelodau Seneddol i gymeradwyo ei fargen Brexit y penwythnos diwethaf (dydd Sadwrn, Hydref 19).

Dywed ei fod yn disgwyl i’r Undeb Ewropeaidd ganiatáu estyniad – “rhywbeth nad ydw i wir eisiau”.