Mae grŵp o ffoaduriaid wedi cael eu cadw yn Zeebrugge ddiwrnod wedi i 39 o gyrff gael eu darganfod mewn cynhwysydd ddaeth o’r un porthladd.
Cafodd sawl un ohonyn nhw eu gweld yn ceisio dringo dros ffens i safle sy’n eiddo i gwmni trosglwyddo nwyddau cyn iddyn nhw gael eu dal gan yr heddlu.
Mae grŵp o wyth dyn wedi cael eu cymryd i ffwrdd mewn tair fan.
Dywed gyrwyr loriau ei bod hi’n frwydr gyson i geisio stopio ffoaduriaid sy’n benderfynol i geisio cael mynediad i’r wlad ar eu cerbydau.