Mae mam o Ogledd Iwerddon wedi mynegi ei rhyddhad ar ôl i newid yn y gyfraith olygu na fydd hi’n cael ei herlyn yn sgil cael ei chyhuddo o brynu cyffuriau erthylu ar gyfer ei merch.

Rodd y ddynes – na ellir ei henwi – wedi cael ei chyhuddo o ddau achos o gael gafael a dosbarthu cyffuriau erthylu gyda’r bwriad o achosi erthyliad.

Ond yn ystod gwrandawiad yn Llys y Goron Belfast, gorchmynnodd y barnwr i’r rheithgor gael y fam yn ddieuog.

Mae erthylu wedi bod yn gyfreithlon yng Ngogledd Iwerddon ers 12yb ddoe (dydd Mawrth, Hydref 22).

“Mae fy nheimladau ar hyd y lle i gyd ac mae’n anodd rhoi mewn geiriau sut dw i’n teimlo,” meddai’r fam.

“Am y tro cyntaf mewn chwe blynedd, gallaf fynd yn ôl at fod yn fam eto, heb y pwysau hyn uwch fy mhen bob munud o’r dydd.

“Gallaf symud ymlaen gyda fy mywyd o’r diwedd.”