Mae nain i ddyn 22 oed o wledydd Prydain a aeth ar goll yn Malaga chwe mis yn ôl, wedi teithio i Sbaen i chwilio am atebion.

Fe ddiflannodd Liam Poole, o Burgess Hill yn West Sussex, gyda’i dad, Daniel ar Ebrill 1, wedi iddyn nhw adael eu bagiau a’u pasborts yn y gwesty lle’r oedden nhw’n aros.

Mae ei nain, Kathy Catney, wedi ymweld â Sbaen gyda rhaglen Inside Out y BBC, gan fynd i’r ganolfan wyliau golff lle bu’r ddau ddyn yn aros. Gan nad oedd Liam Poole yn chwarae golff, mae ei nain wedi bod yn amheus iawn o’r nifer o weithiau y buodd yno ar wyliau.

Roedd ei dad 46 oed hefyd wedi treulio cyfnod yng ngharchar mewn cysylltiad ag achos cyffuriau, ond doedd y teulu ddim wedi holi gormod am hynny.

“Fe aethon nhw i Sbaen i gwrdd â rhywun, i daro rhyw fath o fargen,” meddai’r nain, “p’un ai oedd hynny yn ymwneud â phrynu ty, cyffuriau… dw i ddim yn gwybod.”

Wedi i’r tad a’r mab ddiflannu, mae Kathy Catney yn dweud i’r teulu gael neges ffôn o Moroco yn gofyn am daliad o £100,000 cyn y byddai’r ddau yn cael eu rhyddhau.

Er i’r swm gael ei godi o fewn oriau, ddaeth yna’r un neges ffôn arall na neb yn holi am yr arian.