Mae Llefarydd Tŷ’r Cyffredin wedi gwrthod cais gan Lywodraeth Prydain i gynnal pleidlais ar fargen Brexit y Prif Weinidog.
Yn ôl John Bercow, byddai pleidlais o’r fath yn “ailadroddus ac anhrefnus”, a chyfeiriodd at hen gonfensiwn seneddol sy’n dyddio’n ôl i’r 1600au wrth gyhoeddi ei benderfyniad.
Roedd Boris Johnson wedi gobeithio cael sêl bendith Aelodau Seneddol i’w gynllun Brexit heddiw (dydd Llun, Hydref 21) ar ôl cael ei orfodi dros y penwythnos i ofyn i’r Undeb Ewropeaidd am estyniad i Brexit.
Ond dadl y Llefarydd yw bod amgylchiadau a chynnwys y cynnig yr un fath a’r un a gyflwynwyd gerbron Tŷ’r Cyffredin ddydd Sadwrn (Hydref 19) – ond a ohiriwyd ar y funud olaf.
Dyw hi ddim yn briodol gofyn “yr un cwestiwn” fwy nag unwaith yn ystod yr un sesiwn o’r Senedd, yn ôl John Bercow.
Mae’r penderfyniad yn ergyd arall i Lywodraeth Prydain sy’n mynnu bod ganddyn nhw ddigon o bleidleisiau er mwyn sicrhau bod bargen Boris Johnson yn cael ei chymeradwyo.
Yn y cyfamser, dyw’r Undeb Ewropeaidd dal heb benderfynu pa un a fydd y dyddiad ar gyfer Brexit yn cael ei newid ai peidio.
Mae disgwyl i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31.