Fe fydd Plaid Cymru yn herio Aelod Seneddol y Rhondda os y bydd yn cael ei ethol yn Llefarydd Tŷ’r Cyffredin.
Mae Chris Bryant eisoes wedi cyhoeddi bod ganddo ddiddordeb mewn olynu’r Llefarydd presennol, John Bercow, a fydd yn camu o’r neilltu ar Hydref 31 – y diwrnod pan mae disgwyl i Brexit ddigwydd.
Bydd Aelodau Seneddol yn ethol Llefarydd newydd yr wythnos ganlynol, ar Dachwedd 4.
Mae’n arferiad adeg etholiad cyffredinol i’r prif bleidiau – y Ceidwadwyr, Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol – beidio â sefyll yn erbyn y Llefarydd.
Fodd bynnag, nid pob plaid sydd wedi parchu’r arferiad hwn yn y gorffennol. Yn 1979, er enghraifft, fe heriodd Plaid Cymru yr aelod tros Orllewin Caerdydd ar y pryd, George Thomas, tra oedd yn Llefarydd.
“Dyw’r Rhondda ddim yn debyg i Buckingham”
Yn ôl Aelod Cynulliad y Rhondda, Leanne Wood, fydd Chris Bryant ddim yn ddiwrthwynebiad mewn etholiad os bydd yn cael ei ethol yn Llefarydd.
“Dyw’r Rhondda ddim yn debyg i Buckingham – etholaeth y Llefarydd presennol, John Bercow,” meddai llefarydd ar ran y gangen leol o Blaid Cymru.
“Mae gan y Rhondda rai problemau cymdeithasol difrifol i’w datrys ac sydd angen sylw Aelod Seneddol ymroddedig, llawn amser. All y Rhondda ddim fforddio cael ei chynrychioli gan Seneddwr sydd â mwy o ddiddordeb mewn rhwysg na thlodi.”
“Mae’r Rhondda yn haeddu’r hawl i ddewis pwy yw ei Aelod Seneddol nesaf.
“Bydd Plaid Cymru yn sicrhau y bydd yna ddewis yn yr etholiad cyffredinol nesaf os bydd Chris Bryant yn cael ei ethol yn Llefarydd Tŷ’r Cyffredin.”