Bydd rhagor o arian cyhoeddus yn cael ei fenthyg i Faes Awyr Cymru yng Nghaerdydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw’n darparu benthyciad gwerth £21.2m i’r maes awyr – yn ychwanegol i’r £38.2m sydd eisoes ar gael i’r sefydliad.
Mae’r maes awyr wedi bod mewn dwylo cyhoeddus ers 2013 pan gafodd ei brynu gan weinidogion am bris o £52m.
Barn y Ceidwadwyr Cymreig yw y dylid ei werthu a’i roi yn nol mewn dwylo preifat.
Cynyddu nifer y teithwyr
Yn ôl Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, mae cynlluniau i gynyddu nifer y teithwyr yn cael ei “rwystro gan y costau anghymesur y mae meysydd awyr llai ledled y Deyrnas Unedig yn eu hwynebu.
“Nid yw beichiau a mesurau diogelwch rheoleiddiol yn cael eu rhannu’n gymesur, ac rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Prydain i ddatblygu amgylchedd mwy cystadleuol ar gyfer meysydd awyr llai ac uchelgeisiol sy’n dymuno tyfu ac ymestyn,” meddai.
Bydd y benthyciad ychwanegol i’r maes awyr yn “helpu i gefnogi ei gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol,” meddai ymhellach.
“Bydd y maes awyr yn ad-dalu’r benthyciad yn llawn, gyda llog, o dan amserlen ad-dalu a gynlluniwyd.”