Mae Mark Drakeford a Nicola Sturgeon wedi ysgrifennu at Boris Johonson a Donald Tusk yn galw am ragor o amser i graffu ar y cytundeb Brexit newydd, a’r posibilrwydd o gynnal ail refferendwm.

Yn y llythyr, mae prif weinidogion Cymru a’r Alban yn dweud bod y Mesur Ymadael yn un o’r deddfwriaethau pwysicaf erioed i gael eu hystyried gan y Senedd, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban.

Mae disgwyl i’r ddeddfwriaeth gael ei chyhoeddi heddiw (dydd Llun, Hydref 21) gyda’r Prif Weinidog Boris Johnson yn gobeithio cynnal “pleidlais ystyrlon” ar y medur yn San Steffan ddydd Mawrth.

Mae’n rhaid i’r mesur gael ei gymeradwyo gan Gaerdydd a Holyrood cyn cael ei basio gan ei fod yn cynnwys deddfwriaeth am faterion datganoledig.

“Niweidiol”

Mae’r llythyrau yn galw am estyniad i’r broses Brexit er mwyn caniatáu mwy o amser i’r llywodraethau datganoledig graffu ar y mesur yn fwy manwl. Maen nhw’n dweud nad oes digon o amser i wneud hynny cyn Hydref 31.

Yn y llythyr at Lywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk, mae’r ddau hefyd wedi dweud eu bod yn cefnogi cynnal ail refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae Mark Drakeford a Nicola Sturgeon yn galw ar y Prif Weinidog i “gydymffurfio’n llawn” gyda Deddf Benn, a oedd wedi gwneud cais am estyniad os nad oedd modd dod i gytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd erbyn Hydref 19.

Maen nhw hefyd wedi rhybuddio bod cytundeb Boris Johnson yn “fwy niweidiol” nag un Theresa May.