Mae Llys y Goron Caerdydd wedi clywed sut y gwnaeth dyn, oedd yn dysgu gyrru, wyro ei gar yn fwriadol at siopwr gan ei ladd.
Mae Timothy Higgins, 22, wedi ei gyhuddo o yrru ei gar at Christopher Gadd, 48, wedi i’r ddau gael ffrae ynglŷn â lle parcio ym maes parcio Sainsbury’s ym Mhontllanfraith ger Caerffili.
Clywodd y llys heddiw (dydd Llun, Hydref 21) bod Timothy Higgins wedi gyrru at Christopher Gadd gan achosi iddo syrthio yn ôl i’r ffordd. Fe fu farw Christopher Gadd o anafiadau difrifol i’w ben.
“Gwyrodd ei gar yn fwriadol”
Roedd Christopher Gadd yn teithio mewn car gyda’i frawd a oedd wedi rhwystro car Timothy Higgins rhag symud o’r lle parcio “am gyfnod byr” ar Fawrth 4 eleni.
Dywedodd Owen Williams ar ran yr erlyniad bod Timothy Higgins wedi gwylltio am nad oedd yn gallu symud o’r lle parcio a’i fod wedi codi ei fys at y brodyr a’u bod nhw ymateb drwy wneud yr un peth.
Ar ôl i Timothy Higgins lwyddo i adael y lle parcio fe yrrodd i ran arall o’r maes parcio ac roedd Christopher Gadd wedi ei ddilyn ar droed er mwyn cael gair gydag e.
Clywodd y llys bod Timothy Higgins wedi “gwyro ei gar yn fwriadol i’r dde er mwyn gyrru tuag at” Christopher Gadd.
O ganlyniad i hyn, roedd cerbyd Timothy Higgins wedi gwrthdaro a Christopher Gadd.
Dywedodd Owen Williams bod Christopher Gadd wedi syrthio yn ôl i’r ffordd gan ddioddef anafiadau difrifol i’w ben. Er gwaetha ymdrechion siopwyr a pharafeddygon i’w achub bu farw yn y fan a’r lle, meddai.
Ychwanegodd Owen Williams nad oedd yn awgrymu bod Timothy Higgins wedi bwriadu lladd Christopher Gadd nac achosi anaf difrifol iddo, ond drwy yrru yn y modd y gwnaeth roedd wedi “ymosod yn anghyfreithlon” ar ei ddioddefwr honedig.
Clywodd y llys hefyd nad oedd gan Timothy Higgins yswiriant i yrru’r car na thrwydded yrru lawn.
Mae Timothy Higgins o’r Coed Duon yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad, achosi marwolaeth drwy yrru heb yswiriant ac o achosi marwolaeth heb drwydded lawn.
Mae’r achos yn parhau.