Mae Boris Johnson wedi anfon dau lythyr at yr Undeb Ewropeaidd – un heb lofnod a’r llall yn dweud y byddai ymestyn Brexit yn gam niweidiol.
Mae prif weinidog Prydain yn ceisio ymbellhau oddi wrth y cais gan y Senedd i ymestyn Brexit, ar ôl iddo fe golli pleidlais bwysig ar y mater.
Fe wnaeth e ofyn i ddiplomydd ddanfon llungopi heb lofnod o gais yr aelodau seneddol, gydag ail nodyn wedi’i gyfeirio at Donald Tusk yn nodi ei bryderon.
Mae disgwyl ffrae sylweddol ar ôl i’r prif weinidog ddweud wrth aelodau seneddol na fyddai’n fodlon trafod ymestyn Brexit.
Mae Donald Tusk yn dweud ei fod e’n ystyried sut i ymateb i’r llythyron.
Gwelliant
Wrth i’r aelodau seneddol gwrdd ar ddydd Sadwrn yn San Steffan am y tro cyntaf ers 37 o flynyddoedd ddoe, fe wnaethon nhw bleidleisio o 322 i 306 o blaid gwelliant yn ymestyn Brexit hyd nes bod deddfwriaeth briodol yn ei lle.
Cafodd y gwelliant ei gyflwyno gan Syr Oliver Letwin, a’r nod yw gorfodi Boris Johnson i weithredu yn ôl Deddf Benn, sy’n gofyn ei fod e’n gwneud cais ffurfiol i ymestyn Brexit.
Mae’n debyg fod Boris Johnson wedi’i wneud yn glir wrth siarad â phenaethiaid Ewrop mai aelodau seneddol, ac nid fe ei hun, sy’n galw am estyniad.
Fe ddywedodd wrth aelodau seneddol ac arglwyddi Ceidwadol y byddai’n dweud wrth Frwsel nad ymestyn Brexit yw’r ateb.
Mae’n mynnu o hyd y bydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31, ond mae arweinwyr y pleidiau eraill yn ei rybuddio fod rhaid iddo fe gadw at Ddeddf Benn wrth wneud hynny.
Roedd ganddo fe tan 11 o’r gloch neithiwr i geisio cytundeb neu ofyn am estyniad, ond mae Jacob Rees-Mogg, arweinydd Tŷ’r Cyffredin yn dweud y bydd penderfyniad am bleidlais bellach ddydd Llun (Hydref 21), gyda’r Llefarydd John Bercow yn dweud y bydd e’n gwneud penderfyniad am gynnal y bleidlais.