Fe fydd Boris Johnson yn ceisio darbwyllo Aelodau Seneddol i dderbyn ei gytundeb Brexit munud olaf cyn y bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin yfory (dydd Sadwrn, Hydref 19).
Wrth ddychwelyd o Frwsel, dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn “hyderus iawn” a’i fod yn disgwyl i Aelodau Seneddol bleidleisio o blaid y cytundeb yfory. Ond mae disgwyl dadl danllyd yn Nhŷ’r Cyffredin yfory gyda nifer o’r gwrthbleidiau yn bwriadu gwrthwynebu’r cytundeb.
Mae rhai o’i gefnogwyr allweddol yn y DUP eisoes wedi gwrthod y cytundeb, tra bod yr SNP wedi cyflwyno gwelliant yn gwrthod y cytundeb gan fynnu estyniad hyd at Hydref 31 ac etholiad cyffredinol.
Yn ôl Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon, mae’r cytundeb yn golygu y bydd yr Alban yn cael ei “thrin yn annheg” pan fydd gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd yr arweinydd Llafur Jeremy Corbyn nad oedd yn bosib i’r blaid gefnogi’r cytundeb fel y mae.
Yn y cyfamser mae’r Aelod Seneddol Llafur Hilary Benn wedi ysgrifennu llythyr at yr Ysgrifennydd Brexit Stephen Barclay yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi asesiad effaith y cytundeb cyn y bleidlais ddydd Sadwrn.
Mae Boris Johnson wedi annog Aelodau Seneddol i “ddod ynghyd a chwblhau hyn” ar ôl i arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd gymeradwyo’r cytundeb cyn i uwch-gynhadledd allweddol ddechrau ym Mrwsel ddydd Iau.
“Dw i’n hyderus iawn pan fydd fy nghydweithwyr yn y Senedd yn astudio’r cytundeb yma y byddan nhw eisiau pleidleisio o’i blaid ddydd Sadwrn ac yn y dyddiau ar ôl hynny,” meddai’r Prif Weinidog.
Fe fydd yn rhaid i’r Llywodraeth gael 318 o bleidleisiau er mwyn sicrhau mwyafrif.
Dyma fydd y tro cyntaf i’r Senedd ddod ynghyd ar y penwythnos ers mis Ebrill 1982 yn ystod rhyfel Ynysoedd y Falkland.