Fe fydd trefnwyr Extinction Rebellio yn “cymryd stoc” ar ôl i’r cyhoedd ymateb yn ffyrnig i’w cais i amharu ar y Tiwb yn Llundain.
Cafodd un protestiwr ei lusgo i’r llawr oddi ar ben trên tanddaearol ben bore heddiw (dydd Iau, Hydref 17).
Taflodd aelodau o’r cyhoedd ddiodydd ar un protestiwr a’i wawdio wrth iddo gael ei hyrddio oddi ar drên.
Mae fideo hefyd wedi ei ryddhau ar wefanau cymdeithasol sy’n dangos protestwyr yn dal arwyddion “Busnes = Marwolaeth” tra hefyd yn dangos protestiwr yn cael ei lusgo i’r llawr a’i gicio gan aelodau o’r cyhoedd.