Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau mai David Peter Jones, 63, oedd y gyrrwr a fu farw ar yr A465 ger Hirwaun ddydd Mawrth yr wythnos hon (Hydref 15).
Ac fe ddaeth y newydd hefyd fod ail yrrwr, 27 oed, wedi marw yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, ar ôl bod mewn cyflwr critigol ers y ddamwain. Dyw ei enw ddim wedi cael ei gyhoeddi hyd yn hyn.
Roedd David Peter Jones yn byw ym mhentref Penderyn, ac yn wr, yn frawd ac yn ewythr annwyl. Roedd yn weithiwr caled, meddai teyrnged y teulu, ac wrth ei fodd gyda’i gwn a’i amryw ddiddordebau. Mae ei deulu hefyd yn cofio ei chwerthin heintus a’i gariad at fywyd
Fe fu’r Renault Kangoo lliw glas a’r Renault Megane du, tua 4.10yp rhwng Baverstocks a Hirwaun.